Dros Gymru'n Gwlad (Finlandia)

歌词
Dros Gymru'n gwlad, O! Dad dyrchafwn gri
Y winllan wen a roed i'n gofal ni
D'amddiffyn cryf a'i cadwo'n ffyddlon byth
A boed i'r gwir a'r glân gael ynddi nyth
Er mwyn dy Fab a'i prynodd iddo'i hun
O! crea hi yn Gymru ar dy lun
O! deued dydd pan fo awelon Duw
Yn chwythu eto dros ein herwau gwyw
A'r crindir cras dan ras cawodydd nef
Yn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo Ef
A'n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen
Yn seinio fry haeddiannau'r Addfwyn Oen
O! deued dydd pan fo awelon Duw
Yn chwythu eto dros ein herwau gwyw
A'r crindir cras dan ras cawodydd nef
Yn erddi Crist, yn ffrwythlon iddo Ef;
A'n heniaith fwyn â gorfoleddus hoen
Yn seinio fry haeddiannau'r Addfwyn Oen
专辑信息
1.Dros Gymru'n Gwlad (Finlandia)
2.Jealous Of The Angels
3.Homeward Bound
4.A Gaelic Blessing
5.Come Thou Fount Of Every Blessing
6.Eternal Father
7.Nearer My God To Thee
8.Xander's Song
9.Morning Has Broken
10.Peace In The Valley
11.Never Enough
12.Morning Has Broken
13.Make Me A Channel Of Your Peace
14.To Where You Are
15.Blinded By Your Grace